Find Us Online At
iBookstore
Android app on Google Play
Like Us
A programme by
Rhamant Serol i’w Orffen Mewn Anobaith
13 February 2015

Rhamant Serol i’w Orffen Mewn Anobaith

Mae hi’n Ddydd Sant Ffolant ar Ddydd Sadwrn ac y mae cariad yn yr awyr rhwng cyplau o gwmpas y byd ... ac ar draws y Bydysawd.  Mae'r llun yn dangos pâr o sêr sy'n treulio’u diwrnodau yn dawnsio o amgylch ei gilydd, yn agosáu’n araf.  Yn y pen draw byddant yn uno gyda'i gilydd i greu un seren.

Ond nid yw eu stori mor rhamantus ag y mae'n ymddangos.  Mewn tua 700 miliwn o flynyddoedd, pan fydd y sêr yn cusanu o’r diwedd, fe fydd y digwyddiad yn ddigon pwerus i gynnau ffrwydrad uwchnofa!  Uwchnofa ydy marwolaeth dreisgar, ffrwydrol seren enfawr - neu ddau yn yr achos hwn!

Mae'r pâr agos yma yn sêr corrach gwyn - sêr bach hynod o drwchus sydd ar ôl  pan ddaw sêr fel yr Haul at ddiwedd eu hoes.  Mae gweddill y seren yn gwneud cylch o nwy cosmig a elwir yn Nifwl Planedol.

Wrth gyfuno, bydd y sêr yn cynnwys bron ddwywaith cymaint o nwy na’r Haul.  Mae hyn yn eu gwneud y pâr mwyaf enfawr o gorachod gwyn ganfuwyd erioed!

Roedd y tîm o wyddonwyr a ddaeth o hyd i’r pâr enfawr mewn gwirionedd yn mynd ati i geisio datrys problem wahanol.  Roeddent am wybod pam, weithiau, bod siapau rhyfedd nifwlaidd i’w gweld ar ôl uwchnofa, yn hytrach na siapau modrwy.  Un o'r gwrthrychau roeddent yn eu hastudio oedd y cwmwl yn y llun.  Yn cuddio yng nghanol y nifwl, darganfyddodd seryddwyr y deuawd truenus.

Ond maent mewn gwirionedd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad gwyddonol, drwy gefnogi'r ddamcaniaeth y gall sêr dwbl achosi siapiau rhyfedd rhai o'r nifylau hyn!

Ffaith Cŵl

Mae corachod gwyn ymhlith y gwrthrychau hynaf yn y Bydysawd gan eu bod ar ddiwedd  cylch bywyd y rhan fwyaf o sêr (gan gynnwys ein Haul!)

Share:

More news
12 October 2020
1 October 2020
16 September 2020
14 September 2020
10 September 2020

Images

Stellar Romance Doomed to End in Despair
Stellar Romance Doomed to End in Despair

Printer-friendly

PDF File
955.0 KB